` International comparison and collaboration in medical sociology: Research initiatives, challenges, and future prospects

International comparison and collaboration in medical sociology: Research initiatives, challenges, and future prospects

***English below Welsh***

Diolch am gofrestru ar gyfer symposiwm 'Cymharu a Chydweithio Rhyngwladol mewn Cymdeithaseg Feddygol: Mentrau Ymchwil, Heriau a Gobeithion y Dyfodol' (International Comparison and Collaboration in Medical Sociology: Research Initiatives, Challenges, and Future Prospects).

Gwybodaeth am y digwyddiad
Mae deall adnoddau ac arferion gofal iechyd lleol yn hanfodol ar gyfer gwella iechyd a lles pobl. Mae safbwyntiau cymharol rhyngwladol yn cynnig pwynt cyfeiriol ar gyfer dynodi gwahaniaethau mewn amgylcheddau ac arferion gofal iechyd rhwng ac o fewn cymunedau, gyda chydweithio rhyngwladol yn gydgyfrifoldeb.

Bydd y symposiwm yn dod ag ymchwilwyr at ei gilydd o'r DU, yr Unol Daleithiau a Japan - tair gwlad ag iddynt systemau lles a thraddodiadau damcaniaethol mewn cymdeithaseg feddygol gwahanol iawn - i gyflwyno a thrafod eu gwaith a thueddiadau perthnasol diweddar, ar sail astudiaethau cymharol rhyngwladol a mentrau ymchwil cydweithredol. Bydd y symposiwm yn sail ar gyfer ffurfio adnodd strategol i gynhyrchu a throsglwyddo gwybodaeth ar y lefel ryngwladol, ac mae ar agor i unrhyw un sydd â diddordeb.

Hoffem eich gwahodd yn garedig i ddigwyddiad rhwydweithio ar ôl y symposiwm ar y dydd i gael trafodaethau pellach mewn lleoliad anffurfiol.

Rhaglen (bydd rhaglen lawn ar gael ym mis Gorffennaf.)
Mae'r sesiynau a'r pynciau sydd wedi'u cadarnhau yn cynnwys:

Sesiwn 1: Gwahaniaethau mewn lleoliadau iechyd rhwng ac o fewn cenhedloedd
- meddyginoli fel tuedd fyd-eang a'i hamrywiadau lleol
- ceisio cymorth mewn cyfundrefnau lles gwahanol ar sail astudiaeth gymharol o bedair gwlad Ewropeaidd (UPWEB)

Sesiwn 2: Astudiaethau trawsgenedlaethol gan ymchwilwyr yn Japan
- effeithiau anghydraddoldeb cymdeithasol ar iechyd
- agweddau cymdeithasol at salwch meddwl
- grwpiau hunangymorth/cefnogi

Sesiwn 3: Canolbwyntiau gwybodaeth/data rhyngwladol
- mentrau cydweithredol rhyngwladol/prifysgol gan gynnwys Cadeiriau UNESCO mewn 'Iechyd a Lles Byd-eang'

Siaradwyr
Dr Martyn Pickersgill, Prifysgol Caeredin, y DU
Yr Athro Tatsuya Mima, Prifysgol Ritsumeikan, Japan
Yr Athro Sin Yi Cheung, Prifysgol Caerdydd, y DU
Yr Athro Jenny Phillimore, Prifysgol Birmingham, y DU
Mr Makoto Hiramatsu, Prifysgol Kwansei Gakuin, Japan
Yr Athro Mari Higuchi, Prifysgol Hokkaido , Japan
Dr Hiroto Shimizu, Prifysgol Caerdydd, y DU; Prifysgol Ryukoku, Japan
Yr Athro Rie Suzuki, Prifysgol Michigan, UDA
Yr Athro Hiroshi Yamanaka, Prifysgol Osaka, Japan

Cofrestru
Oherwydd cyfyngiadau lle, rhaid cofrestru erbyn Awst 6 2019.

Mae'r digwyddiad am ddim, ac mae'n cynnwys cinio ar y dydd. Rhowch wybod i ni (ShimizuH@caerdydd.ac.uk) os oes gennych chi unrhyw ofynion dietegol neu fynediad.

Cyfieithu ar y pryd
Bydd y gynhadledd drwy gyfrwng y Saesneg.

Hoffech chi gyfrannu yn Gymraeg yn y digwyddiad? Gallwn ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gyfer y sesiwn holi ac ateb os oes digon o alw. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â ShimizuH@caerdydd.ac.uk erbyn Awst 6 2019 i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Bwrsariaethau
Mae nifer o fwrsariaethau teithio werth £50 ar gael i fyfyrwyr ôl-raddedig. Ebostiwch y cyfeiriad isod am ragor o wybodaeth ac i ymgeisio.

Cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Hiroto Shimizu (ShimizuH@caerdydd.ac.uk).

Trefnwyr
Hiroto Shimizu, Prifysgol Caerdydd; Prifysgol Ryukoku
Hiroshi Yamanaka, Prifysgol Osaka
Sin Yi Cheung, Prifysgol Caerdydd

Cyllid
Caiff y gwaith gefnogaeth grantiau symposiwm/gweithdy gan Gymdeithas Japan er Hyrwyddo Gwyddoniaeth a'r Sefydliad Cymdeithaseg Iechyd a Salwch.

Diogelu Data
Drwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, rydych yn rhoi caniatâd i ni brosesu eich data. Mae gennych yr hawl i newid eich meddwl a gwrthod rhoi eich caniatâd i ni brosesu eich data ar unrhyw adeg (cysylltwch â ShimizuH@caerdydd.ac.uk).

Bydd Prifysgol Caerdydd yn cadw’r wybodaeth a ddarperir gennych yn unol â Pholisi Diogelu Data y Brifysgol (https://www.cardiff.ac.uk/cy/public-information/policies-and-procedures/data-protection). Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i roi’r newyddion diweddaraf i chi cyn y digwyddiad ac i hwyluso'ch profiad. Ar ôl y digwyddiad, byddwn hefyd yn cysylltu â chi i gael eich adborth am eich profiad o’r digwyddiad (nid oes rhaid i chi lenwi’r arolwg adborth).

Sylwer y bydd ffotograffau'n cael eu cymryd drwy gydol y digwyddiad. Caiff y rhain eu defnyddio i hyrwyddo'r digwyddiad a digwyddiadau yn y dyfodol.

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei recordio, ac mae'n bosibl y bydd yn cael ei roi ar y cyfryngau cymdeithasol a'i ddefnyddio at ddibenion hyrwyddo. Os nad ydych yn dymuno cael eich recordio, siaradwch gydag un o'r trefnwyr cyn i'r digwyddiad ddechrau.

******************************************

Thank you for registering for the 'International Comparison and Collaboration in Medical Sociology: Research Initiatives, Challenges, and Future Prospects' symposium.

About the event
Understanding local healthcare resources and practices are essential for improving people's health and well-being. International comparative perspectives provide a reference point for identifying inter-/intra-community variations in healthcare environments and practices, with international collaboration being a joint responsibility.

This symposium will bring together researchers from the UK, the USA, and Japan—three countries that have very different welfare systems and theoretical traditions in medical sociology—to present and discuss their work and recent relevant trends, based on international comparative studies and collaborative research initiatives. The symposium will be a basis for forming a strategic resource for knowledge production and transfer at the international level, and is open to anyone interested.

We kindly invite you to a post-symposium networking event on the day for further discussions in a more informal setting.

Programme (a full programme will be made available in July.)
Confirmed sessions and topics include:

Session 1: Inter/intra-national variations in health settings
- medicalisation as a global trend and its local variations
- help seeking in different welfare regimes based on a comparative study of four European countries (UPWEB)

Session 2: Cross-national studies by researchers in Japan
- effects of social inequality on health
- social attidudes towards mental illnesses
- self-help/support groups

Session 3: International knowledge/data hubs
- international/university collaborative initiatives including UNESCO Chairs 'Global Health and Education'

Speakers
Dr Martyn Pickersgill, University of Edinburgh, UK
Professor Tatsuya Mima, Ritsumeikan University, Japan
Professor Sin Yi Cheung, Cardiff University, UK
Professor Jenny Phillimore, University of Birmingham, UK
Mr Makoto Hiramatsu, Kwansei Gakuin University, Japan
Professor Mari Higuchi, Hokkaido University, Japan
Dr Hiroto Shimizu, Cardiff University, UK; Ryukoku University, Japan
Professor Rie Suzuki, University of Michigan, USA
Professor Hiroshi Yamanaka, Osaka University, Japan

Registration
Due to limited space, registration is required by August 6th, 2019.
The event is free of cost, and lunch on the day is included. Please advise us (ShimizuH@cardiff.ac.uk) if you have any dietary or access requirements.

Simultaneous translation
The conference will be in the medium of English.

Would you like the opportunity to contribute in Welsh at this event? A simultaneous translation may be provided for the Q&A sections if there is sufficient demand. If you intend to do this, please contact ShimizuH@cardiff.ac.uk by August 6th 2019 to request simultaneous translation. Please note that 10% or more of those planning to attend will need to request this provision in order for it to be sourced and that it will be subject to resource availability.

Bursaries
A number of travel bursaries of £50 per person are available for postgraduate students. Please email the address below for more information and to apply.

Contact
For more information, please contact Hiroto Shimizu (ShimizuH@cardiff.ac.uk).

Organisers
Hiroto Shimizu, Cardiff University; Ryukoku University
Hiroshi Yamanaka, Osaka University
Sin Yi Cheung, Cardiff University

Funding
The work is supported by symposium/workshop grants from the Japan Society for the Promotion of Science and the Foundation for the Sociology of Health and Illness.

Data protection
By registering for this event you are providing us with consent to process your data. You have the right to withdraw your consent to the processing at any time (please contact ShimizuH@cardiff.ac.uk).

The information provided by you will be held by Cardiff University in accordance with the University's Data Protection Policy. We will use this information to provide you with updates prior to the event and to facilitate your event experience. Following the event we will also contact you to seek feedback about your experience of the event (response to the feedback survey is optional).

Please note that photos will be taken throughout the event. These will be used to promote the event and future events.

This event will be recorded and the recording may be added to social media or used for promotional purposes. If you do not wish to be recorded, please speak to one of the organisers before the event starts.

SEASON OF CULTURE

EVENT REGISTRATION

Please read guidelines and apply your event